Frank Lloyd Wright

Pensaer Americanaidd oedd Frank Lloyd Wright (8 Mehefin 18679 Ebrill 1959).

Americanwr o Wisconsin ydoedd, ond gŵr a'i wreiddiau'n ddwfn yng Nghymru. Bu'n bensaer dros 500 o brosiectau gorffenedig, yn awdur dros 20 o lyfrau pensaernïol a chynllunydd dodrefn mwyaf yr 20g. Yn 1991 fe gyhoeddodd Cymdeithas Penseiri America mai ef oedd "the greatest American architect of all time".

Ar ôl dod yn bensaer galwodd nifer o'i adeiladau yn "Taliesin" (yn ogystal â'i gartref ei hun).

O'r cartref cyntaf gafodd ei gynllunio ganddo hyd at ei farwolaeth, creodd syniadau chwyldroadol megis pensaernïaeth organig (chwedl Fallingwater), a oedd yn pwysleisio y dylai'r adeilad ffitio i mewn yn naturiol i'r ardal mae ynddo. Creodd fathau gwahanol o eglwysi, swyddfeydd, ysgolion, gwestai ayb - yn ogystal â thu fewn i'r adeiladau hyn: y dodrefn a'r ffenestri er enghraifft. Sgwennodd dros ugain o lyfrau'n ymwneud â phensaernïaeth yn ystod ei oes ac roedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn drwy America ac Ewrop. Roedd yn berson lliwgar hefyd ac roedd ei fywyd yn llenwi papurau'r oes: methiant dwy briodas a'r tân erchyll a gynnwyd yn fwriadol yn 1914 gan ddifrodi'r Taliesin Studio - a lladd 7 o bobl.

Defnyddiodd gynllun agored yn aml, sy'n dangos ei fod yn ymateb i'r newidiadau cymdeithasol yn America; roedd y gegin er enghraifft yn aml bron yn un a'r ystafell fwyta - er mwyn i'r wraig gadw llygad ar y plant neu'r ymwelwyr tra'n coginio. Cafodd ei ddynwared gan lawer o bensaeri a'i ddilynodd - ac yn eu plith mae Mies van der Rohe. Ef oedd arweinydd y symudiad a elwir y 'Prairie School movement of architecture' (gyda Robie House a Westcott House yn esiamplau clasurol), a datblygodd y syniad o'r cartref Usonaidd ('Usonian') (gweler ei Rosenbaum House). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Wright, Frank Lloyd', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
1
2
Cyhoeddwyd 2005
Awduron Eraill: ...Wright, Frank Lloyd...
Llyfr
3
Cyhoeddwyd 2001
Awduron Eraill: ...Wright, Frank Lloyd...
Llyfr
4