Wolfgang Amadeus Mozart
Roedd Wolfgang Amadeus Mozart (27 Ionawr 1756 – 5 Rhagfyr 1791) yn un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol a diwyd y cyfnod Clasurol. Fe'i ganwyd yn Salzburg, Awstria a dechreuodd gyfansoddi darnau pan oedd yn bump oed. Pan roedd yn dal yn blentyn aeth ei dad, Leopold Mozart, ag ef i chwarae o flaen teuluoedd crand Ewrop. Mae'n bosibl fod yr holl deithio wedi achosi problemau iechyd iddo yn hwyrach yn ei fywyd.Bu farw ym 1791 yn drychinebus o ifanc, yn dlawd, ond wedi cyfansoddi cannoedd o ganeuon sy'n adnabyddus hyd heddiw.
Ysgrifennodd Mozart 68 symffoni, 27 concerto piano, yn ogystal â choncerti i'r clarinet, y corn Ffrengig, yr obo, y fiola, y ffidil, y ffliwt a'r telyn.
bawd|Wolfgang Amadeus Mozart Darparwyd gan Wikipedia
1