Paracelsus

Meddyg ac athronydd Swisaidd ei genedl ac Almaeneg ei iaith oedd Philippus Aureolus Theophrastus Bombastus Von Hohenheim (11 Tachwedd (neu 17 Rhagfyr) 149324 Medi 1541) a adwaenir gan amlaf gan ei enw Lladin, Paracelsus (). Yn ogystal â'i astudiaethau yn ffisigwriaeth, botaneg ac athroniaeth naturiol, ymddiddorai yn alcemeg, sêr-ddewiniaeth, a'r ocwlt.. Bu'n gyfrifol am ddatblygu Athrawiaeth yr Arwyddnodau.

Er ei ganolbwynt ar agweddau goruwchnaturiol a ystyrir yn ffug-wyddonol gennym yn yr oes fodern, gwyddonydd chwyldroadol oedd Paracelsus a osododd sail i fethodoleg weithredol yn y gwyddorau iechyd a chydnabai pwysigrwydd cemeg i'r ffisigwr. Beirniadai'r dull ysgolaidd ym meysydd meddygaeth, gwyddoniaeth, a diwinyddiaeth, gan arddel arsylwi natur er diben dealltwriaeth. Eiconoclast gwyddonol ydoedd, gan iddo amau doethindeb y testunau hynafol. Ymhlith ei gampau mae disgrifiad clinigol o syffilis, ymchwil cynnar ym maes gwenwyneg, enwi'r elfen sinc (''zincum''), ac awgrymu cysylltiad rhwng afiechydon corfforol ac afiechyd meddwl. Y llyfr ''Der grossen Wundartzney'' (1536) yw ei gampwaith. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Paracelsus', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau