Rowan Williams
| dateformat = dmy}} bawdEsgob, diwynydd a bardd o Gymro Dr Rowan Douglas Williams, Arglwydd Williams o Ystumllwynarth (ganwyd 14 Mehefin 1950). Roedd yn Archesgob Caergaint rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012.
Fe'i ganwyd yn Abertawe, yn fab i deulu Cymraeg. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dinefwr, Abertawe, yng Ngoleg Crist, Caergrawnt, a Choleg Eglwys Crist a Coleg Wadham, Rhydychen, lle y cafodd ei ddoethuriaeth. Bu'n dysgu diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt.
Daeth yn Esgob Mynwy yn 1991, ac yn Archesgob Cymru yn 1999. Yn 2002 cyhoeddwyd ei fod i ddilyn George Carey fel Archesgob Caergaint, yn Eglwys Loegr, ac felly yn arweinydd y Gymuned Anglicanaidd fyd-eang, er yn dechnegol, nid oedd yn aelod o Eglwys Loegr, gan fod yr Eglwys yng Nghymru wedi ei datgysylltu. Fe'i urddwyd ar yr 27 Chwefror 2003 a bu yn y swydd rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2012.
Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Cafodd ei dderbyn yn swyddogol i Dŷ'r Arglwyddi ar 14 Ionawr 2013. Roedd eisoes wedi eistedd fel un o'r Arglwyddi Ysbrydol, 26 o Esgobion Eglwys Lloegr sydd â sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Derbyniodd urddolaeth am oes wedi ei ymddeoliad fel Archesgob Caergaint. Darparwyd gan Wikipedia
1