Stanisław Wyspiański

Dramodydd, bardd ac arlunydd Pwylaidd oedd Stanisław Wyspiański (15 Ionawr 186928 Tachwedd 1907) sydd yn nodedig am ei gyfraniad at fagu traddodiad theatraidd unigryw i Wlad Pwyl, yn ogystal â'i baentiadau a'i ffenestri gwydr lliw. Yr oedd yn aelod blaenllaw o'r mudiad Pwyl Ifanc (''Młoda Polska'').

Ganed ef yn Kraków, Teyrnas Galisia a Lodomeria, a oedd dan reolaeth Awstria-Hwngari. Cafodd addysg dda mewn llenyddiaeth glasurol a'r celfyddydau cain. Ym 1890 derbyniodd gymorth ariannol i ymweld â dinasoedd celfyddgar ar draws Gorllewin a Chanolbarth Ewrop, gan gynnwys sawl taith i Baris.

Ym 1897 cyhoeddodd ei waith cyntaf, y ddrama ffantasi ''Legenda''. Mae'r ddwy ddrama ''Klątwa'' (1899) a ''Sędziowie'' (1907) yn ymwneud â materion cyfoes, wedi eu strwythuro ar fodel trasiedïau Hen Roeg. Tynnai ar hanes Gwlad Pwyl yn ei gerdd ''Kazimierz Wielki'' (1900), a enwir ar ôl y Brenin Kazimierz III. Perfformiwyd ei ddrama enwocaf, ''Wesele'', ym 1901, campwaith sy'n defnyddio stori priodas (a ysbrydolwyd gan Lucjan Rydel) i gyflwyno trosiad o hanes y genedl Bwylaidd. Cyhoeddwyd dilyniant i ''Wesele'' o'r enw ''Wyzwolenie'', ym 1903.

Fel arlunydd, paentiodd Wyspiański furluniau a dyluniadau ar gyfer ffenestri gwydr lliw a gwisgoedd theatraidd. Fe'i penodwyd yn athro yn Academi'r Celfyddydau Cain yn Kraków ym 1905. Bu farw Stanisław Wyspiański yn Kraków o syffilis yn 38 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Wyspiański, Stanisław', amser ymholiad: 0.05e Mireinio'r Canlyniadau
1
2
Llyfr
3
gan Piotrowska, Barbara
Cyhoeddwyd 2000
Awduron Eraill: ...Wyspiański, Stanisław...
Llyfr