Martin Luther

Offeiriad, diwinydd a diwygiwr eglwysig o'r Almaen oedd Martin Luther (10 Tachwedd 148318 Chwefror 1546). Ef fu'n gyfrifol am symbylu'r Diwygiad Protestanaidd.

Ganwyd Martin Luther yn Eisleben yn Sacsoni. Treuliodd 1505 fel mynach yn Erfurt, a gweithiodd fel doctor diwinyddiaeth yn Wittenburg yn 1512.

Ar 31 Hydref 1517 hoeliodd Martin Luther ddarn o bapur ar ddrws eglwys gadeiriol Wittenberg a oedd yn rhestru 95 o ddadleuon yn erbyn yr Eglwys Babyddol. Gwrthwynebai'n gryf yr honiad y gellid prynu achubiaeth o gosb Duw gydag arian. Roedd Luther yn dysgu nad oedd iachawdwriaeth i'w gael drwy weithredoedd da ond i'w gael yn unig drwy ras Duw a ffydd yn Iesu Grist fel Iachawdwr. Roedd ei ddiwinyddiaeth yn herio awdurdod y Pab wrth ddysgu mai'r Beibl yw unig ffynhonnell datguddiad dwyfol.

Cyfieithodd Martin Luther y Beibl (y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534) i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Bu'n ysbrydoliaeth i ddatblygiad Prostaniaeth ar draws Ewrop, gan gynnwys yn Ffrainc lle adnabwyd hwy fel yr Hiwgenotiaid.

Dychwelodd i Eisleben a bu farw yno. Claddwyd ym mynwent Eglwys y Gastell yn Wittenburg.

Prenzlau Martin Luther.jpg|Cerflun o Luther yn Brandenburg, Yr Almaen Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 7 canlyniadau o 7 ar gyfer chwilio 'Luther, Martin', amser ymholiad: 0.12e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Luther, Martin
Cyhoeddwyd 1992
Llyfr
2
gan Luther, Martin
Cyhoeddwyd 2011
Inhaltsverzeichnis
Llyfr
3
4
Awduron Eraill: ...Luther, Martin...
Llyfr
5
Awduron Eraill: ...Luther, Martin...
Erthygl
6
7
Cyhoeddwyd 1998
Awduron Eraill: ...Luther, Martin...
Inhaltsverzeichnis
Llyfr